Ymunwch â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Fawreddog i gael Cymru i rif 1

O ran ailgylchu, mae Cymru ymhell ar y blaen. Mae ein cenedl wych yn drydydd am ailgylchu drwy’r byd i gyd yn barod. Ailgylchu gwastraff bwyd yw’r maes lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf!

Mae Cymru yn Ailgyclhu’n galw ar blant 8 i 11 oed i helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy lle’r ydym yn gwastraffu llai ac yn ailgylchu mwy. Cymerwch ran yn yr TYmgyrch Gwastraff Bwyd Fawreddog Ymgyrch Gwastraff Bwyd Fawreddog yr hydref yma, sy’n rhedeg yn ystod yr Wythnos Ailgylchu (16-22 Hydref 2023) tan ddiwedd mis Tachwedd.

Archwiliwch ein hamrywiaeth o weithgareddau dosbarth hwyliog sy’n para 20-30 munud. Mae pob un yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a gallwch eu defnyddio yn rhan o’ch tystiolaeth Eco Ysgolion.

Cam 1: Darparwch grynodeb o genhadaeth yr ymgyrch: Mae gwastraff bwyd yn creu egni gwyrdd – a gallwn ninnau helpu fel dinasyddion gweithredol! (Y Dyniaethau)

Cam 2: Dewiswch eich ymgyrch! Cwblhewch un neu fwy o’r tri gweithgaredd ystafell ddosbarth

Cam 3: Cystadleuaeth gwaith cartref – dyluniwch sticer i’ch cadi gwastraff bwyd (archebwch sticeri gwag rhad ac am ddim i’ch disgyblion gan ddefnyddio’r ffurflen isod).

O’r cadi cegin i ynni adnewyddadwy -darganfod beth sy’n digwydd i wastraff bwyd yng Nghymru .

Yr Ymgyrch Gwastraff Bwyd Fawreddog

Yn gyntaf, darllenwch y canllaw i athrawon i weld beth yw’r ymgyrch, yna cofrestrwch eich manylion i lawlrwytho’r sleidiau ystafell ddosbarth a’r her gwaith cartref, ac i archebu sticeri i’ch myfyrwyr.

8 i 11 oed

Y Dyniaethau

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mathemateg a Rhifedd

Iaith a Llythrennedd

Eco-Sgolion

Canllaw i athrawon

Trosolwg o’r adnoddau a dolenni’r cwricwlwm.

Gweld yr adnodd

Adnoddau myfyrwyr

Sleidiau dosbarth a chystadleuaeth gwaith cartref.

Gweld yr adnodd

Archebu sticeri am ddim

Archebu sticeri am ddim y gall myfyrwyr eu haddasu a’u glynu ar eu cadis gwastraff bwyd gartref i esbonio manteision cynhyrchu egni o ailgylchu gwastraff bwyd gyda’r teulu cyfan!

Mae gennych hefyd yr opsiwn o gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr a chlywed am ragor o adnoddau am ddim, cyfleoedd a chystadlaethau cyffrous.

Diolch yn fawr am ymuno â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Fawreddog.

Os ydych wedi archebu’r sticeri am ddim, caniatewch hyd at bum diwrnod gwaith iddyn nhw gyrraedd.

Gallwch nawr lawrlwytho sleidiau’r ystafell ddosbarth.

I gael mynediad at yr adnoddau rhad ac am ddim hyn a/neu archebu sticeri, llenwch y ffurflen syml hon

    Hoffwn i’r nifer hwn o sticeri gwag rhad ac am ddim eu rhoi i’m disgyblion fel rhan o’r gweithgaredd a’r gystadleuaeth gwaith cartref (uchafswm o 200). (Byddwn yn anelu at gael y sticeri atoch o fewn 5 diwrnod gwaith.)

    Trwy roi tic yn y bocs uchod i gofrestru i dderbyn diweddariadau a chyfleoedd ymchwil, rydych yn rhoi caniatâd i Ailgylchu Cymru/WRAP Cymru/Recycle Now/WRAP ddefnyddio'r wybodaeth hon i anfon diweddariadau atoch a chyfleoedd ymchwil ar yr e-bost, ac rydych yn cytuno y cawn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroednodyn unrhyw e-bost marchnata a dderbyniwch gennym neu drwy gysylltu â data.protection@wrap.org.uk. Gallwch weld polisi preifatrwyddAilgylchu Cymru/WRAP Cymru/Recycle Now/WRAP i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn rhannu eich data gyda'n partner asiantaeth EVERFI( polisi preifatrwydd) sy'n rheoli'r Pecyn Gweithredu ar ran Ailgylchu Cymru/WRAP Cymru, a gallai gael ei rannu gyda'u partenriaid argraffu a chyflawniad Gemini (polisi preifatrwydd), a phartneriaid cylchlythyr e-bost Dotdigital (polisi preifatrwydd) a'r Cwmni Marchnata Ysgolion (polisi preifatrwydd).